Text Box: National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Health and Social Care Committee / Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
 
 Public Health (Wales) Bill / Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
 Evidence from Royal College of Physicians – PHB 25 / Tystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Meddygon – PHB 25
 
 wales_templates

Text Box: Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 
 Ymateb i’r ymgynghoriad gan RCP (Cymru)
 
 
 About us 
 
 The Royal College of Physicians (RCP) plays a leading role in the delivery of high quality patient care by setting standards of medical practice and promoting clinical excellence. We provide physicians in Wales and across the world with education, training and support throughout their careers. As an independent body representing more than 29,000 fellows and members worldwide, including 800 in Wales, we advise and work with government, the public, patients and other professions to improve health and healthcare.
 
 Amdanom ni
 
 Mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn arwain y ffordd o ran darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion drwy osod safonau ar gyfer arferion meddygol a hybu rhagoriaeth glinigol. Rydym yn darparu addysg, hyfforddiant a chefnogaeth i feddygon yng Nghymru a ledled y byd drwy gydol eu gyrfa. Fel corff annibynnol sy’n cynrychioli mwy na 29,000 o gymrodorion ac aelodau ym mhedwar ban byd, gan gynnwys 800 yng Nghymu, rydym yn cynghori ac yn gweithio gyda’r llywodraeth, y cyhoedd, cleifion, a gweithwyr proffesiynol eraill i wella iechyd a gofal iechyd.
 
 
 Am fwy o wybodaeth, cysylltwch os gwelwch yn dda â: 
 Beverlea Frowen
 Uwch-gynghorydd Polisi dros Gymru (dros dro)
 XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX

 

Coleg Brenhinol y Meddygon (Cymru)

Regus House - Tŷ Regus, Falcon Drive

Cardiff - Caerdydd CF10 4RU

XXXXXXXXXXXXXXXX

 

www.rcplondon.ac.uk/wales

 

Catherine Hunt

Clerc

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Adeiladau’r Pierhead

Bae Caerdydd

 

From the RCP vice president for Wales

Gan is-lywydd yr RCP dros Gymru

Dr Alan Rees MD FRCP

XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX

 

 

XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX

From the RCP registrar

Gan gofrestrydd yr RCP

Dr Andrew Goddard FRCP

XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX

 

25 Awst 2015

 

 

Annwyl gydweithiwr,

 

YMGYNGHORIAD AR FIL IECHYD Y CYHOEDD (CYMRU) GAN LYWODRAETH CYMRU

 

Diolch i chi am y cyfle i roi tystiolaeth ysgrifenedig a llafar ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

 

Ein Hymateb

 

Mae’r RCP yn cytuno y dylai

 

·         bil iechyd y cyhoedd fod yn fframwaith galluogi ar gyfer deddfwriaeth iechyd y cyhoedd newydd ac yn y dyfodol 

·         deddfwriaeth fod yn gymesur, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn hanfodol mewn rhai amgylchiadau

·         fod cofrestr manwerthu tybaco yng Nghymru

·         fod gwaharddiad ar werthu e-sigaréts i bobl sydd dan 18 oed

·         ysmygu sigaréts gael ei wahardd ar dir ysbytai a meysydd chwarae plant.

 

Nid yw’r RCP yn cytuno y dylai

 

·         bod gwaharddiad llwyr ar e-sigaréts mewn lleoedd cyhoeddus gan fod hyn yn wrthgynhyrchiol ac nid yw’n adlewyrchu’r sylfaen dystiolaeth ar yr hon y dylai’r llywodraeth geisio llunio deddfwriaeth

 

Mae’r RCP yn annog y llywodraeth i

 

·         gynnal y ffocws ar iechyd cyhoeddus ac iechyd i bawb mewn polisïau

·         estyn y rheoliadau presennol ar gyfer safonau bwyd

·         ailddatgan y rheidrwydd i’r GIG weithredu Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan yn llawn

·         sefydlu Fforwm Cenedlaethol gydag arweinyddiaeth trawslywodraethol er mwyn ymdrin â Gordewdra

·         deddfu cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn lleihau’r niwed o yfed gormod o alcohol

 

Cyflwyniad

 

Mae’r RCP yn credu’n gryf y dylai’r bil iechyd y cyhoedd hwn fod yn sylweddol a gweithredu fel fframwaith galluogi a fydd yn symbylu ac yn cefnogi Llywodraeth Cymru a chyrff eraill i ymdrin âphroblemau iechyd y cyhoedd sy’n dod i’r amlwg fel y maen nhw’n ymddangos yn rhagweithiol ac yn gweithredu yn ogystal fel y ‘fframwaith’ ar gyfer deddfwriaeth a rheoliadau yn y dyfodol. 

 

Mae’r RCP yn credu y dylai’r Bil

·         amlinellu’n eglur y cyfeiriad, yr uchelgais a’r fframwaith ar gyfer polisi iechyd y cyhoedd yng Nghymru, yn cynnwys diffinio swyddogaeth unigryw Llywodraeth Cymru, ei chymwyseddau deddfwriaethol uniongyrchol a’r rhai hynny sydd ar gael i Gymru ar gyfer y dyfodol

·         sbarduno a chefnogi newid seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi’i dargedu ar iechyd a llesiant preswylwyr Cymru ac mae’n bwysig, fel blaenoriaeth, cyflwyno deddfwriaeth sydd wedi’i phrofi er mwyn leihau anghydraddoldebau

·         dod yn gydran hanfodol ac ar wahân o’r arfau deddfwriaethol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, a thrwy wneud hynny, lliniaru’r potensial ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r gofyn ar gyrff cyhoeddus i gynhyrchu cynlluniau llesiant lleol i fod yr unig gyfrwng ar gyfer ymdrin â heriau iechyd y cyhoedd sy’n wynebu Cymru

·         gorchymyn deddfwriaeth, ond dylai’i ddefnydd fod yn gymesur ac yn adlewyrchu sylfaen dystiolaeth gadarn bob amser.

 

Wrth ddarparu tystiolaeth ddiweddar i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Mehefin 2015, cyfeiriodd y Gweinidog Iechyd at gyfyngiadau a therfynau’r pwerau sydd ar gael yng Nghymru i gael eu gweithredu’n syth.  Rydym yn cydnabod y sefyllfa hon, ond rydym yn rhwystredig fod hyn yn atal Cymru rhag cymryd dull rhagweithiol ehangach a mwy uniongyrchol er mwyn lliniaru heriau brys iechyd y cyhoedd fel yr epidemig gordewdra a lleihau niwed o’r niferoedd cynyddol o bobl sy’n yfed gormod o alcohol.  Nodwn fod y gweinidog wedi datgan y

 

‘ceir cyfyngiadau gwirioneddol arnom, ac mae’r cyfyngiadau hynny yn arbennig ym maes gordewdra’

 

Bydd yr RCP yn parhau i roi ei gefnogaeth, drwy dynnu ar ei aelodaeth eang a’i wybodaeth, i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar bolisi heb ei ddatganoli yn Llywodraeth San Steffan, yn ogystal â chefnogi Llywodraeth Cymru i gael pwerau datganoledig ychwanegol ar gyfer Cymru er mwyn gweithredu deddfwriaeth sy’n adlewyrchu polisi a dyheadau’r RCP.

 

Ein Hymateb

 

Rhan dau: Cynhyrchion tybaco a nicotin

 

Dros y ddegawd olaf, mae’r RCP wedi siarad yn bwerus o blaid lleihau’r niwed i bobl sy’n gaeth i ysmygu tybaco.  Mae’r RCP yn cydnabod bod sigaréts electronig a dyfeisiadau nicotin newydd eraill yn gallu darparu ffordd amgen, effeithiol, fforddiadwy i ysmygu tybaco ac sydd ar gael yn hawdd gan fanwerthwyr. Yn ôl adolygiad tystiolaeth annibynnol ddiweddar o e-sigaréts gan Public Health England, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2015, mae gan e-sigaréts y potensial i leihau lefelau ysmygu yn sylweddol, ac maen nhw’n 95% yn llai niweidiol nag ysmygu tybaco.  Mae’r adolygiad diweddaraf hwn yn darparu tystiolaeth gadarn i gefnogi ein barn bod ysmygu e-sigaréts yn arf effeithiol a gwerthfawr er mwyn cefnogi pobl i roi’r gorau i ysmygu ac nad yw’n darparu llwybr i bobl ddechrau ysmygu sigaréts.

 

 

Nid yw’r RCP yn cefnogi gwaharddiad cynhwysfawr ar ddefnyddio e-sigaréts mewn lleoedd cyhoeddus caeedig a sylweddol gaeedig.Mae’r adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Public Health England yn dangos yn eglur bod ysmygu e-sigaréts wedi dod yn ddull poblogaidd i roi’r gorau i ysmygu tybaco.  Nid oes unrhyw dystiolaeth fod ysmygu e-sigaréts mewn lleoedd caeedig yn achosi risg sylweddol i bob eraill wrth anadlu ei anwedd.  Yn ogystal, rydym yn nodi’r cyhoeddiad diweddar fod Llywodraeth yr Alban wedi tynnu bwriad tebyg yn ôl, gan gydnabod bod buddion iechyd i ysmygwyr wrth ddefnyddio e-sigaréts.  Rydym yn teimlo bod gwaharddiad cyfan gwbl ar ddyfeisiadau sy’n cynnwys nicotin (e-sigaréts) mewn lleoedd cyhoeddus yn annoeth ac yn wwrthgynhyrchiol, ac nid yw’n adlewyrchu’r sylfaen dystiolaeth y dylai’r llywodraeth ei geisio er mwyn cyflwyno deddfwriaeth newydd.  Ni fydd yn helpu i gyflawni targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru er mwyn lleihau cyfraddau ysmygu i 16% erbyn 2020; fodd bynnag, mae’n hanfodol bwysig y dylai effeithiau ysmygu e-sigaréts mewn lleoedd cyhoeddus barhau i gael eu monitro.

 

Rydym yn cefnogi’n gryf y pwysigrwydd o reoleiddio e-sigaréts er mwyn sicrhau eu diogelwch a gosod rheolau priodol wrth eu gwerthu a’u marchnata. Rydym yn nodi’r gofyniad i Gymru gydymffurfio âChyfarwyddeb Cynhyrchion Tybaco’r UE sy’n dod i rym ym mis Mawrth 2016. Nid yw’r RCP yn ymwybodol o unrhyw dystiolaeth sy’n dangos bod sigaréts electronig yn normaleiddio ysmygu tybaco mewn lleoedd cyhoeddus dan do, er y bydd yn bwysig diogelu’r defnydd o e-sigaréts drwy gyfyngiadau ar hysbysebu a marchnata, a mesurau eraill i sicrhau nad yw e-sigaréts yn cael eu hyrwyddo fel eitem ffasiwn, yn arbennig felly, i blant.

 

Pe bai gwaharddiad ar ddefnyddio e-sigaréts mewn lleoedd cyhoeddus caeedig a sylweddol gaeedig yn cael ei weithredu yng Nghymru, byddwn yn cefnogi esemptiad ar gyfer y rhai hynny sy’n byw mewn carchar. Mae nifer achosion o ysmygu mewn carchardai yn parhau ar lefel sylweddol uwch na’r boblogaeth yn gyffredinol, ac mae hyn yn rhoi carcharorion a staff mewn risg o niwed a achoswyd drwy anadlu mwg.  Mae’n hanfodol bod carcharorion yn cael help a chefnogaeth i roi’r gorau i ysmygu, a allai gynnwys defnyddio e-sigaréts mewn ffordd a reolir.

 

Mae’r RCP yn cefnogi gwaharddiad ar ysmygu tybaco yn gryf ar dir ysbytai ac mewn meysydd chwarae i blant. Mae’r sefyllfa o waharddiad gwirfoddol yn creu ansicrwydd, dryswch ac mae angen deddfwriaeth er mwyn sicrhau nad yw pobl yn dioddef o effeithiau niweidiol cynhyrchion sy’n cynnwys tybaco.  Mae lleoedd cyhoeddus lle gall plant fod yn bresennol, cyfleusterau gofal iechyd, canolfannau hamdden a pharciau yn fannau cychwyn synhwyrol. Fodd bynnag, mae angen trafodaeth ar ba mor bell y dylai’r cyfyngiad hwn ymestyn.  Mae’r RCP yn nodi bwriad rhai awdurdodau lleol yn Lloegr, er enghraifft Cyngor Brighton a Hove, i wahardd ysmygu ar ei draethau o 2016.

 

 

Creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr a chynhyrchion nicotin

 

Mae’r RCP yn croesawu’r cynnig am gofrestr fanwerthu sy’n unol â Chynllun Gweithredu Rheoli Tybaco. Bu cyflwyno cofrestr fanwerthu yn yr Alban yn ffordd effeithiol o fonitro argaeledd a thueddiadau mewn argaeledd, ac felly byddwn yn cefnogi cyflwyno cynllun tebyg yng Nghymru.  Yn ogystal, credwn y byddai cofrestr fanwerthu yn helpu awdurdodau lleol i ymdrin â’r broblem o werthu dan oed a chynorthwyo wrth orfodi’r gwaharddiad arddangos.  Yn ogystal, mae ysmygu wedi’i ganoli fwyfwy mewn rhannau llai cyfoethog o Gymru lle mae llawer efallai wedi prynu cynhyrchion tybaco sydd wedi cael eu smyglo neu sy’n ffug.  Bydd cofrestr yn lliniaru effeithiau’r ymarfer hwn ar fusnesau bychain cyfreithlon.  Croesewir unrhyw fesur sy’n helpu i leihau’r tebygrwydd o werthiant o dan oed yn gryf.

 

Mae’r RCP yn cefnogi rheoleiddio sigaréts electronig a chynhyrchion nicotin newydd eraill fel meddyginiaethau ac mae’n bwysig nodi, petai e-sigaréts yn cael eu rheoleiddio fel meddyginiaethau yn y DU gan Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (ARhMGI), byddai’n amhriodol i atal cleifion rhag defnyddio meddyginiaethau rhagnodedig o dan do.

 

Gwahardd rhoi cynhyrchion tybaco neu nicotin i rai o dan 18 oed

 

Rydym yn croesawu'r gwaharddiad arfaethedig ar werthu e-sigaréts i bobl o dan 18 oed, ac ar brynu e-sigaréts drwy ddirprwy i’r rhai hynny o dan 18 oed.  Yn ogystal, byddem yn cefnogi mesurau i atal marchnata i blant a’r rhai nad ydyn nhw’n ysmygu, a rheoleiddio’r cynhyrchion hyn er mwyn gwarantu safonau ansawdd a diogelu defnyddwyr.  Byddai’r cynnig ar gyfer ei wneud yn drosedd i roi cynhyrchion tybaco i unigolyn sydd o dan yr oed cyfreithiol i brynu cynhyrchion tybaco yn unol âmesurau eraill, fel y gwaharddiad ar beiriannau gwerthu, gwaharddiadau ar arddangos mewn mannau gwerthu a chyflwyno cofrestr fanwerthu, er mwyn cyfyngu mynediad pobl ifanc i gynhyrchion tybaco cyn belled ag sy’n bosibl.

 

Mae’r RCP yn cefnogi’r cynnig i ddefnyddio gorchmynion mangre o dan gyfyngiad (GMGau) wedi’u gweithredu drwy swyddogion gorfodi’r awdurdodau lleol yng Nghymru fel ataliad pellach er mwyn lleihau gwerthiant p dan oed o gynhyrchion sy’n cynnwys tybaco.

 

Sylwadau eraill

 

Mae ffocws cyfyng yr ymgynghoriad arbennig hwn yn cael ei ddeall, a gwnaethom groesawu’r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar gynnig i osod isafbris o 50c yr uned am alcohol.  Fodd bynnag, mae’r RCP yn dymuno cymryd y cyfle hwn i ailddatgan ei bryder ynglŷn â’r canlynol:

 

Cynnal y ffocws ar iechyd cyhoeddus ac iechyd i bawb mewn polisïau

 

·         Mewn amser o gyni a phwysau uniongyrchol ar wasanaethau, mae’r lefel buddsoddiad mewn iechyd cyhoeddus a chamau i weithredu polisïau iechyd cyhoeddus yn llithro i lawr yr agenda.  Mae maint a chwmpas yr ‘her iechyd cyhoeddus ataliadwy’ yn parhau i godi ar raddfa frawychus.  Mae angen ffocws parhaus ac arweinyddiaeth genedlaethol gref er mwyn hyd yn oed atal pwysau mwy ar adnoddau.

 

·         Dylai Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gynnwys ymrwymiad i symud iechyd ym mhob polisi ymlaen, yn cynnwys darpariaeth yn y Bil i nodi’n ddiweddarach, cyfrifoldeb statudol i gwblhau asesiad effaith iechyd ar gyfer cynlluniau lleol a chenedlaethol.  Petai hyn yn dod yn realiti, yn cynnwys polisïau’r polisïau’r llywodraeth, byddai’n codi proffil iechyd cyhoeddus mewn cymdeithas; helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a gwybodaeth am faterion iechyd cyhoeddus pwysig a phryderon drwy adrannau’r llywodraeth ac ym mhob sector.  Bydd yr RCP yn dilyn, gyda diddordeb, y datblygiad o Ddangosyddion Llesiant Cenedlaethol yn 2016 ac effeithiolrwydd y cynlluniau llesiant lleol arfaethedig gan gyrff cyhoeddus, a gobeithiwn y bydd y rhain yn rhoi hwb ymlaen i ymdrin ârhai o’n heriau cyson a chyffredin y mae clinigwyr yn dod ar eu traws yn rheolaidd.

 

 

 

Safonau bwyd, maethiad gwael a gordewdra

 

·         Mae’r RCP yn siomedig nad yw rheoleiddio safonau bwyd mewn lleoliadau megis rhai cyn- ysgol ac mewn cartrefi gofal yn cael eu cynnwys o fewn Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).  Mae safonau bwyd yn cael effaith bwysig ar iechyd pobl.

·         Mae risg bod lawer o gyflyrau cronig, yn arbennig felly, clefyd coronaidd y galon, gordewdra, diabetes a rhai canserau, yn cynyddu gyda diet gwael, ac amcangyfrifir bod clefydau sy’n gysylltiedig â diet yn costio oddeutu £6 biliwn y flwyddyn i’r GIG.  Rhagwelir y bydd cost gordewdra yn unig yn cyrraedd £49.9 biliwn y flwyddyn erbyn 2050 gan adroddiad Foresight.26 Mae Cymru yn wynebu rhai o’r heriau mwyaf yn y DU, gyda’r Rhaglen Mesur Plant yn adrodd bod nifer achosion o blant sy’n rhy drwm neu sy’n ordew yn 26% yn y flwyddyn dderbyn.27

·         Gall cynnal safonau bwyd, yn arbennig felly, mewn lleoliadau iechyd fel ysbytai sy’n ceisio cadw pobl yn iach, ddylanwadu ar ganfyddiad pobl o fwydydd sy’n cael eu hystyried yn dderbyniol ac yn iach.  Mae’r sector cyhoeddus yn darparu bwyd ar gyfer rhai o’r bobl dlotaf a’r mwyaf bregus sy’n byw yng Nghymru.  Mae Safonau Maeth ac Arlwyo ar gyfer Bwyd a Diod ar gyfer Cleifion Preswyl mewn Ysbytai, a’r safonau Fframwaith Bwydlenni Ysbytai Cymru Gyfan yn sicrhau bod cleifion yn derbyn maethiad digonol i gynorthwyo eu hadferiad tra maen nhw yn yr ysbyty, ond gellir cyflawni llawer mwy os ydym yn sicrhau bod prydau a bwyd iach a chytbwys yn cael eu cynnig mewn bwytai staff (a all yn ogystal gynnwys staff, cleifion ac ymwelwyr). Byddai meini prawf gorfodol ar gyfer darparu eitemau manwerthu iachach yn unig mewn bwytai ysbytai a siopau yn helpu ysbytai yng Nghymru i gyflawni eu cyfrifoldeb dros wella iechyd y boblogaeth y maen nhw’n eu gwasanaethu.

·         Byddai ymestyn y Gyfarwyddeb ar Werthu sy’n Hybu Iechyd mewn Ysbytai i mewn i leoliadau eraill yn y sector cyhoeddus, megis adeiladau Awdurdodau Lleol, yn cynnwys canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol, yn rhoi hwb ymlaen i’r newid diwylliannol sydd ei angen ynglŷnâ bwyd iach ac afiach.

 

·         Ymddengys bod argymhellion gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystod 2014 a gweithredu Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan gan y llywodraeth yn cael eu hanwybyddu, aros yn eu hunfan neu wedi sicrhau amlygrwydd cyfyngedig mewn dogfennau strategol a chynlluniau cyflawni Byrddau Iechyd Lleol. 

 

·         Cyfeiriodd y Cynllun Strategol dros Iechyd Cyhoeddus Cymru 2015-2018 at gamau gweithredu dros y tair blynedd nesaf i osgoi gordewdra mewn plant (0-7 oed); fodd bynnag, nid oedd yn nodi unrhyw gamau gweithredu ar gyfer oedolion na phlant hŷn. Mae data o Arolwg Iechyd Cymru o2009/12 yn dangos bod 28 y cant o oedolion yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru yn ordew o’i gymharu â17 y cant yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf. Ar gyfer rhy drwm a gordewdra gyda’i gilydd, roedd y ffigyrau hyn yn 61 y cant yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a 53 y cant yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf.  Mae gordewdra yn cynyddu’r risgiau o glefydau, megis diabetes, clefyd y galon, canser a strôc.  Mae angen dull holistaidd i ymdrin â’r epidemig gordewdra sy’n adnabod plant o fewn cyd-destun teuluol ac yn lleihau’r nifer cynyddol o oedolion sy’n dioddef o ordewdra.

 

 

·         Mae’r potensial ar gyfer arweiniad trawslywodraethol a grŵp cenedlaethol i oruchwylio camau gweithredu cydgysylltiedig ar ordewdra yn enghraifft o sut y gall y llywodraeth ddangos arweinyddiaeth, wrth hwyluso ymgysylltiad strategol o amrediad eang o randdeiliaid a all, gyda’i gilydd, drefnu adnoddau sylweddol a chael effaith sylweddol ar ddatrys problemau a rennir. Byddai’r RCP yn ymrwymo’n llwyr i fforwm o’r fath, ac yn ei gefnogi.

 

Lleihau’r niwed o orddefnyddio alcohol

 

·         Dylid cymryd cyfleoedd i gyfyngu ar hysbysebu alcohol a thrawsfarchnata alcohol mewn siopau manwerthu, fel y gall Cymru fabwysiadu ymarferion deddfwriaethol tebyg i’r Alban, lle y bo hynny’n bosibl.

·         Rydym yn croesawu yr ymgynghoriad ar Ddrafft y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafsbris am Alcohol) yn gryf.

 

 

Yn olaf, mae’r RCP yn falch o dderbyn gwahoddiad i roi tystiolaeth lafar a thrafod ein safbwyntiau yn fwy manwl ar 17 Medi 2015.    Bydd Dr David Price, Cynghorydd Rhanbarthol dros yr RCP yng Nghymru a Beverlea Frowen yn bresennol.

 

 

 

 

 

Gyda dymuniadau gorau,

 

             

 

Dr Alan Rees                                                      Dr Andrew Goddard      

RCP vice president for Wales                      RCP registrar                     

Is-lywydd yr RCP dros Gymru                     Cofrestrydd yr RCP